Addewid Partneriaeth Cyflogwr
Siapio sgiliau cyfredol a’r dyfodol. Unigolion ysbrydoledig. Archwilio gweithlu’r dyfodol.
Eisiau codi proffil eich sefydliad? Recriwtio a chryfhau eich llif o ddoniau? Sefydlu cysylltiad sy’n fuddiol i bawb gydag un o’r colegau mwyaf blaenllaw yng Nghymru?
Pwrpas ein Haddewid Partneriaeth yw cryfhau’r cysylltiadau gyda diwydiant a rhoi hwb i ymgysylltiad gyda chyflogwyr, er mwyn helpu i fodloni blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol, cefnogi canlyniadau myfyrwyr a’r economi leol.
Mae effaith Covid-19 ar ddysgwyr a busnesau yn rhanbarth Gwent wedi bod yn llethol, ac rydym yn cydnabod y gallai newid ffyrdd o weithio a’r galw am sgiliau yn y dyfodol. Wrth i ni symud ymlaen, mae 91Ï㽶ÊÓƵ eisiau chwarae rhan allweddol o ran bodloni’r gofynion hyn.
Mae’r Addewid yn ceisio cefnogi cyflogwyr yn ein rhanbarth i weithio’n agosach gyda’n coleg, er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith a phontio’n llwyddiannus o’n coleg ni i’r gymuned fusnes leol.
Fel y darparwr AB mwyaf yn rhanbarth Gwent, gyda champysau yng Nghasnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chaerffili, rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o ymgysylltu’n weithredol a gweithio gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid lleol.
Pwrpas yr Addewid
Bydd Addewid ‘Partneriaeth’ 91Ï㽶ÊÓƵ yn cynnig llwyfan lle bydd ein myfyrwyr, busnesau ac addysg yn ymgysylltu er budd yr ardal leol.
Ein bwriad, trwy’r addewid, yw adeiladu ar ein cysylltiadau gyda diwydiant ymhellach, rhoi cyflogwyr wrth wraidd ysbrydoli, hysbysu a chyfathrebu’n uniongyrchol gyda’n myfyrwyr, arddangos llwybrau gyrfaol a’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ym myd gwaith.
Defnyddir mwy nag un dull wrth i gyflogwyr ymgysylltu gyda’n coleg. Rydym yn awyddus i ddatblygu partneriaethau newydd ac yn barod i roi cynnig ar amrywiaeth o ffyrdd arloesol a chyffrous o weithio gyda sefydliadau i greu cyd-fuddiannau.
Cymryd Rhan
Gellir ymuno â’r Addewid AM DDIM, a byddwch yn helpu i gryfhau ein hymgysylltiad gyda phartneriaid yn y diwydiant, a darparu cyfnewidfa ddwy ffordd o syniadau a gwybodaeth i alluogi busnesau a 91Ï㽶ÊÓƵ i gydweithio.
Croesawir cyfraniadau gan bob cyflogwr, pa un ai eich bod yn sefydliad mawr, BBaChau neu fusnes micro. Isod, rydym wedi amlinellu’r amrywiaeth o weithgareddau a mentrau sydd, yn ein barn ni, yn cynnig cyfle i gyflogwyr weithio gyda 91Ï㽶ÊÓƵ. Drwy gofrestru, bydd cwmnïau’n ymrwymo i’n Haddewid Partneriaeth ac yn barod i gymryd rhan mewn un, neu fwy, o’r gweithgareddau hyn dros gyfnod o 3 blynedd.
-
Mynychu ffeiriau swyddi, prentisiaethau, mewnwelediadau a gyrfaoedd
-
Cynnig gwaith, lleoliad gwaith gyda diwydiant, interniaethau, prosiectau byw ac ymweliadau â safleoedd
-
Gwneud cyflwyniadau cyflogwyr, darlithoedd gan westai o’r sector, dosbarthiadau meistr a sesiynau blasu
-
Cefnogi gweithdai sgiliau cyflogadwyedd – cyflwyniad ar cv, ceisiadau a chyfweliadau ffug
-
Ymwneud â chynllunio a datblygu cwricwlwm
-
Ymuno â fforymau a rhwydweithiau cyflogwyr
-
Beirniadu cystadlaethau a gwobrau
-
Hyrwyddo swyddi, cyfleoedd gwaith a recriwtio myfyrwyr
-
Hyfforddi eich gweithlu a DPP staff drwy’r coleg
-
Cyflogi Prentisiaid
Ein Gweledigaeth – Gweithle medrus ac economi ranbarthol gref
Mae gweithlu medrus, gwybodus ac ysgogol yn elfen bwysig ar gyfer adeiladu mantais gystadleuol gynaliadwy a chryf mewn busnes. Bydd 91Ï㽶ÊÓƵ yn Goleg sy’n darparu ar gyfer cyflogwyr, a chyfochr â nhw. Bydd gweithio gyda chyflogwyr yn cyfoethogi’r addysg rydym yn ei darparu, a’n galluogi ni i ymateb i anghenion yr economi leol a rhanbarthol.