91Ï㽶ÊÓƵ

En
Mature learner

Yma i chi ac yn cefnogi eich iechyd meddwl


23 Medi 2020

Rydym yn rhan o hyn gyda'n gilydd (pawb)- Together(All)

Gall coleg fod yn gyfnod heriol, os ydych yn profi addysg bellach am y tro cyntaf fel rhywun sydd newydd adael ysgol, neu’n dychwelyd i fyd addysg fel dysgwr aeddfed ar ôl nifer o flynyddoedd. Ond rydym bob amser yma i’ch helpu i addasu ac ymdopi gyda’ch amgylchiadau yn ystod eich cyfnod yn 91Ï㽶ÊÓƵ a’ch lles yw ein blaenoriaeth.

Rydym yn falch o gynnig amgylchedd coleg croesawus, amrywiol sy’n cynnwys pawb ac yn sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i gyflawni eu nodau a’u dyheadau. Ac eleni, rydym yn teimlo’n gyffrous i lansio gwasanaeth iechyd meddwl newydd sbon ar gyfer ein dysgwyr (a gydnabuwyd ynghynt fel Big White Wall).

Gyda chymaint ag rhywbryd yn eu bywyd, nid yw iechyd meddwl erioed wedi cael ei drafod mor agored ag y mae nawr. Mae ein cymuned yn hyrwyddo iechyd a lles meddyliol o hyd, ac rydym yn awyddus i barhau i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir pan ydych ei hangen fwyaf.

Learners laughing at Crosskeys campus

Ar adeg mor bwysig yn eich bywyd a’ch gyrfa, bydd llawer o bethau’n newydd i chi a bydd gennych nifer fawr o gwestiynau all fod angen eu hateb. So, at 91Ï㽶ÊÓƵ, our support network covers everything from course help to your personal wellbeing. Mae gennym staff cefnogi ar gael ar bob campws, tiwtoriaid sydd bob amser yn barod i helpu i’ch arwain, a’n gwasanaeth newydd sbon Togetherall.

Beth yw Togetherall?

yn gymuned ar-lein ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, gyda mynediad 24/7 at arbenigwyr wedi’u hyfforddi. Gan gynnig arbenigedd clinigol, cefnogaeth cyfoedion ac amgylchedd ar-lein diogel, mae’n anelu at wella lles meddyliol mewn ffordd gynhwysol sy’n rhydd o feirniadaeth.

Gall aelodau gefnogi ei gilydd yn ddienw, ac mae Togetherall yn darparu man diogel i siarad, rhannu profiadau a chefnogi eraill fel chi. Mae hefyd yn cynnwys hunan-asesiadau, cyrsiau hunan-arweiniol ac offer creadigol i’ch helpu i reoli cyflyrau iechyd meddwl, cymryd rheolaeth, teimlo’n well a chynnal lles meddyliol cadarnhaol yn ystod eich amser yn y coleg.

Togetherall app on mobile

Rydym wedi uno mewn cydweithrediad â Togetherall er mwyn:

  • Cynnig cefnogaeth lles estynedig i’n dysgwyr
  • Darparu sesiynau cwnsela ar-lein ar gyfer dysgwyr
  • Annog dysgwyr i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol
  • Torri’r stigma sy’n ymwneud â materion iechyd meddwl
  • Bod o gymorth i’n dysgwyr gefnogi ei gilydd fel cymuned
  • Gwella’r ddealltwriaeth o iechyd a lles meddyliol
  • Hyrwyddo iechyd a lles meddyliol yn gyson yn 91Ï㽶ÊÓƵ

Peidiwch ag anghofio, yn 91Ï㽶ÊÓƵ, nid ydych ar eich pen eich hun – rydym bob amser yma i’ch helpu a’ch cefnogi i gyrraedd eich potensial ac rydym yn rhan o hyn gyda’n gilydd.

Gallwch ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ar eich campws drwy ein gwefan neu ar y ddolen gymorth ar CG Connect.