91Ï㽶ÊÓƵ

En

Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Os ydych chi’n gartrefol ar y prif lwyfan, yn y stiwdio recordio neu’r llawr dawns, yna efallai bydd gennym cwrs i chi

Mae Cymru yn gwneud enw iddi hi ei hun yn y diwydiannau creadigol, un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y wlad, drwy gynhyrchu sioeau teledu hynod boblogaidd ac fel cartref i gerddorion a chantorion enwog. Pam na wnewch chi ychwanegu at y sêr hynny drwy astudio gyda ni heddiw?

Cerddoriaeth

Mae’n ddigon gwir fod llawer o gerddorion yn cael gyrfaoedd llwyddiannus a hwythau heb fath o gymwysterau cerddorol. Ond bydd hi’n haws o lawer i chi adeiladu eich gyrfa drwy fod yng nghwmni pobl eraill sydd yr un mor frwdfrydig ynghylch cerddoriaeth, mewn amgylchedd sy’n creu momentwm, lle byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth a allai gymryd blynyddoedd i’w meithrin fel arall.

P’un ai a ydych eisiau bod yn gyfansoddwr caneuon, yn beiriannydd sain neu’n gweithio ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, gwnewch gais i astudio cerddoriaeth gyda ni heddiw.

Y Celfyddydau Perfformio

Drama

Dysgwch sut i ddefnyddio dull siarad, symudiadau, mynegiant ac iaith y corff i greu cymeriadau, emosiynau a sefyllfaoedd, gan ddatblygu eich sgiliau yn barod i berfformio o flaen cynulleidfa yn fyw yn ein theatr ein hunain neu ar gyfer recordiad sain, teledu neu ffilm.

Dawns a theatr gerddorol

Gall y sgiliau a ddysgwch ar y cyrsiau hyn agor y drws i ystod eang o ddewisiadau. Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa lenyddol, greadigol neu ym maes y cyfryngau, neu’n gweithio mewn cwmni theatr naill ai fel perfformiwr neu’r tu ôl i’r llenni.

8 cwrs ar gael

Rwyf wrth fy modd â’r ochr berfformio o’r cwrs. Rydym wedi dysgu am wahanol lwybrau mewn cerddoriaeth nad oeddwn erioed wedi meddwl amdanynt o’r blaen, felly mae wedi rhoi profiad mwy cyflawn i mi. Rwyf wedi dysgu mwy na chwarae un offeryn, ac wedi sylweddoli fod gen i’r gallu cudd o ddrymio!

Ben Morgan
BTEC Cerddoriaeth

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau