91Ïã½¶ÊÓÆµ

Hygyrchedd

Access to Higher Education student sat at computer

Datganiad Hygyrchedd ar 91Ïã½¶ÊÓÆµ

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan www.coleggwent.ac.uk.

Defnyddio’r wefan hon

Mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo’r testun hyd at 200% heb fod y testun yn diflannu o’r sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan   ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Efallai na fydd rhai delweddau bob amser yn cynnwys testun amgen priodol
  • Efallai na fydd rhywfaint o gynnwys trydydd parti neu gynnwys wedi’i fewnblannu yn bodloni safonau hygyrchedd yn llawn

Rydyn ni wrthi’n gweithio i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch chi’n dod ar draws problemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Rydyn ni’n anelu at ymateb ymhen 5 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am sicrhau gorfodaeth y rheoliadau hygyrchedd.

Os nad ydych chi’n fodlon o ran sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r .

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2 safon AA.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol ag .

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Peidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r materion canlynol wedi cael eu hadnabod:

  • Efallai nad oes gan rai delweddau destun amgen digonol

Rydyn ni’n adolygu ac yn diweddaru disgrifiadau delweddau ar draws y wefan.

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella parhaus ac rydyn ni’n:

  • adolygu ac yn diweddaru testun amgen ar gyfer delweddau
  • sicrhau bod cynnwys newydd yn bodloni WCAG 2.2 safon AA
  • cynnal profion yn rheolaidd gan ddefnyddio gwiriadau â llaw ac offer awtomatig
  • gwella hygyrchedd fel rhan o ddiweddariadau a datblygiad parhaus o’r wefan

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cynhaliwyd y prawf diweddaraf o’r wefan hon ar 22 Ebrill 2026.

Cynhaliwyd y prawf gan Bloom Digital gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac offer awtomatig.

Profwyd y wefan yn erbyn WCAG 2.0, 2.1 a 2.2 Lefel A a safon AA.

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi oddi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Byddwn ni’n ystyried eich cais a byddwn ni’n cysylltu â chi ymhen 5 diwrnod gwaith.

Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 23 Ebrill 2026. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 23 Ebrill 2026.