91Ïã½¶ÊÓÆµ

Canolfan Farchogaeth

Photo of a learner with a horse

Cyfleusterau marchogaeth ar gyfer pob math o farchog

Mae ein canolfan farchogaeth yn cynnwys arenâu dan do ac awyr agored, stablau modern ac offer safon diwydiant - delfrydol ar gyfer marchogaeth, hyfforddi a gofalu am geffylau mewn lleoliad proffesiynol.

P'un a ydych chi'n meithrin eich sgiliau neu'n chwilio am rywle o safon i reidio ynddo, mae'r ganolfan yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a llawn cyfarpar i weddu i bob lefel o brofiad.

Horse and rider in indoor arena

Digwyddiadau marchogaeth

Mae Canolfan Farchogaeth 91Ïã½¶ÊÓÆµ ar ein campws ym Mrynbuga, yn cynnal digwyddiadau marchogaeth yn rheolaidd, ac mae hefyd ar gael i’w llogi. Mae digwyddiadau rheolaidd yn cynnwys dressage a neidio ceffylau digysylltiad ar gyfer pob oedran a gallu. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac ar agor i’r cyhoedd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch swyddfa’r iard ar 01495 333682 neu anfon e-bost at equine.events@coleggwent.ac.uk.

Mae ein harenâu dan do (54m X 30m) ac awyr agored (40m X 60m) pwrpasol ar gael i’w llogi gan grwpiau neu unigolion, yn cynnig arwynebau pob tywydd o’r radd flaenaf.

Mae gennym offer neidio Jump4Joy cwrs llawn ac ychydig o ffensys XC arena ar gael i’w llogi.

Yn ogystal â hynny, gallwch logi offer cystadlu drwy drefnu ymlaen llaw, yn amodol ar argaeledd.

Mae’r Ganolfan Geffylau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm.

Mae Digwyddiad yn cael ei ystyried yn fenter fasnachol pan fo cyfranogwyr yn talu ffi mynediad er mwyn cymryd rhan.

Llogi ar gyfer Digwyddiad Yr Awr (£) Diwrnod Llawn (£)
(Rhwng 08:00 – 18:00)
Arena Dan Do £35 £250
Arena Awyr Agored £30 £200
Arena Dan Do ac Arena Awyr Agored £60 £350
Cyfleusterau Ychwanegol
Y Dosbarth PRIS AR GAIS PRIS AR GAIS

Nodwch, bydd ffi glanhau o £25 yn cael ei chodi ar gyfer pob ardal os na fydd y cyfleusterau yn cael eu gadael mewn cyflwr rhesymol o lân a thaclus wedi ichi eu defnyddio.

Noder, mae’r sesiynau llogi canlynol yn amodol ar argaeledd.

Dydd Llun – Dydd Iau

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 4:30pm – 8pm, a rhaid gadael y safle’n llwyr erbyn 8:30pm.

Dydd Gwener

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 4:30pm – 5:30pm, a rhaid gadael y safle’n llwyr erbyn 6pm.

Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 8am – 5pm ar gyfer sesiynau diwrnod llawn.

Y sesiwn hwyraf i’w llogi fesul awr neu hanner diwrnod yw rhwng 4pm – 5pm.

Rhaid gadael yr adeilad erbyn 5:30pm.

Gellir trefnu amseroedd y tu allan i'r uchod yn dilyn trafodaeth, fodd bynnag bydd costau ychwanegol yn codi.

Rhaid i bob ceffyl sy’n ymweld fod wedi’u brechu’n llwyr yn erbyn Ffliw Ceffylau a rhaid bod pasbortau ceffylau ar gael i’w harchwilio.

Gweler ein .

Digwyddiadau Marchogaeth Campws Brynbuga

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

White horse in a stable

Cyrsiau cysylltiedig