Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â chipolwg eang ond craff i astudiaethau crefyddol ledled y byd.
... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliannau eraill
... Rydych chi’n weithiwr caled ac yn gallu cymell eich hun
... Oes gennych ddiddordeb mewn athroniaeth crefydd
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster UG, ac yn ymdrin â 2 fodiwl:
- Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau crefyddol a thestunau sanctaidd, credoau a chysyniadau canolog, hunaniaeth Gristnogol a materion cymdeithasol. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwaith chwilio am 'Iesu Hanesyddol', hanes Cristnogaeth, a materion diwinyddol megis pam roedd yn rhaid i Grist farw?
- Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Mae hyn yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, megis moeseg rhinwedd ac egoistiaeth foesol; damcaniaeth cyfraith naturiol Aquina, moeseg sefyllfaoedd, defnyddiolaeth; dadleuon ynglyn â bodolaeth Duw, y broblem o ddrwg a dioddef a phrofiad crefyddol.
Yn ystod eich ail flwyddyn o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster Uwch, ac yn ymdrin â 3 modiwl:
- Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau a thestunau crefyddol, datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sylweddol ym meddyliau crefyddol ac arferion crefyddol sy'n ffurfio hunaniaeth grefyddol. Bydd hyn yn cynnwys y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, Diwinyddiaeth Ffeministaidd ac ymateb Cristnogion i broblemau byd-eang.
- Mae Crefydd a Moeseg yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, moeseg ddeontolegol, penderfyniaeth ac ewyllys rydd.
- Mae Athroniaeth Crefydd yn cynnwys unedau ar heriau credoau crefyddol, profiad crefyddol ac iaith grefyddol.
Byddwch yn cael eich asesu ar Lefel UG a Lefel Uwch:
Asesiadau UG:
- Cristnogaeth: Un arholiad yn para 1 awr 15 munud (15% o'r cymhwyster cyfan)
- Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Un arholiad yn para 1 awr 45 munud (25% o'r cymhwyster cyfan);
Asesiad Lefel Uwch:
- Un arholiad yn para 1 awr 30 munud ym mhob un o'r tri modiwl
- Mae Cristnogaeth, Moeseg ac Athroniaeth crefydd i gyd yn cynrychioli 20% yr un o'r cymhwyster cyfan (UG = 40% ac U = 60%)
Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Astudiaethau Crefyddol Lefel UG
- Astudiaethau Crefyddol Lefel Uwch
Gyda chymhwyster mewn astudiaethau crefyddol, cewch fynd ymlaen i addysg uwch neu ddod o hyd i gyflogaeth mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys addysgu, gwaith elusennol â thâl, marchnata, y weinidogaeth grefyddol, rheoli.
Mae hwn yn bwnc ychwanegol da i ddysgwyr sy'n ystyried dilyn llwybrau at feysydd megis y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol/cenedlaethol a'r fyddin.
Mae sawl dysgwr wedi astudio'r pwnc hwn gyfochr â phynciau STEM, gan ei fod yn darparu cyfle i ymdrin â nhw o safbwynt athronyddol a moesol.
Bydd angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Bydd angen ichi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol. Cynhelir ymweliadau yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn cyfoethogi eich profiad dysgu.