91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Astudiaethau Crefyddol UG Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â chipolwg eang ond craff i astudiaethau crefyddol ledled y byd.

... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliannau eraill
... Rydych chi’n weithiwr caled ac yn gallu cymell eich hun
... Oes gennych ddiddordeb mewn athroniaeth crefydd

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster UG, ac yn ymdrin â 2 fodiwl:

  • Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau crefyddol a thestunau sanctaidd, credoau a chysyniadau canolog, hunaniaeth Gristnogol a materion cymdeithasol. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwaith chwilio am 'Iesu Hanesyddol', hanes Cristnogaeth, a materion diwinyddol megis pam roedd yn rhaid i Grist farw?
  • Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Mae hyn yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, megis moeseg rhinwedd ac egoistiaeth foesol; damcaniaeth cyfraith naturiol Aquina, moeseg sefyllfaoedd, defnyddiolaeth; dadleuon ynglyn â bodolaeth Duw, y broblem o ddrwg a dioddef a phrofiad crefyddol.

Yn ystod eich ail flwyddyn o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster Uwch, ac yn ymdrin â 3 modiwl:

  • Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau a thestunau crefyddol, datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sylweddol ym meddyliau crefyddol ac arferion crefyddol sy'n ffurfio hunaniaeth grefyddol. Bydd hyn yn cynnwys y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, Diwinyddiaeth Ffeministaidd ac ymateb Cristnogion i broblemau byd-eang.
  • Mae Crefydd a Moeseg yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, moeseg ddeontolegol, penderfyniaeth ac ewyllys rydd.
  • Mae Athroniaeth Crefydd yn cynnwys unedau ar heriau credoau crefyddol, profiad crefyddol ac iaith grefyddol.

Byddwch yn cael eich asesu ar Lefel UG a Lefel Uwch:

Asesiadau UG:

  • Cristnogaeth: Un arholiad yn para 1 awr 15 munud (15% o'r cymhwyster cyfan)
  • Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Un arholiad yn para 1 awr 45 munud (25% o'r cymhwyster cyfan);

Asesiad Lefel Uwch:

  • Un arholiad yn para 1 awr 30 munud ym mhob un o'r tri modiwl
  • Mae Cristnogaeth, Moeseg ac Athroniaeth crefydd i gyd yn cynrychioli 20% yr un o'r cymhwyster cyfan (UG = 40% ac U = 60%)

Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Astudiaethau Crefyddol Lefel UG
  • Astudiaethau Crefyddol Lefel Uwch

Gyda chymhwyster mewn astudiaethau crefyddol, cewch fynd ymlaen i addysg uwch neu ddod o hyd i gyflogaeth mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys addysgu, gwaith elusennol â thâl, marchnata, y weinidogaeth grefyddol, rheoli.

Mae hwn yn bwnc ychwanegol da i ddysgwyr sy'n ystyried dilyn llwybrau at feysydd megis y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol/cenedlaethol a'r fyddin.

Mae sawl dysgwr wedi astudio'r pwnc hwn gyfochr â phynciau STEM, gan ei fod yn darparu cyfle i ymdrin â nhw o safbwynt athronyddol a moesol.

Bydd angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

Bydd angen ichi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol. Cynhelir ymweliadau yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn cyfoethogi eich profiad dysgu.

Tutor and student sharing exam results

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFAS0150A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFAS0150A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy