91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Cerddoriaeth UG Lefel 3

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn eich caniatáu chi i astudio, perfformio, cyfansoddi a datblygu'ch sgiliau cerddoriaeth.

...Ydych eisiau cael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn frwdfrydig ac yn gallu cymell eich hun
... Yw cerddoriaeth a/neu'r theatr yn agos at eich calon

Cynigiwn hyfforddiant o fath conservatoire o safon uchel. Ar lefel UG, byddwch yn astudio perfformiadau unigol ac ensemble, cyfansoddi a thechnegau cyfansoddi. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau clywedol, a dadansoddiad cerddorol trwy astudio cyfuniad o weithiau yn mynd i'r afael â dau faes astudio (symffoni 1760-1830 a naill ai theatr gerdd, neu roc a phop, neu jas). Mae'r fanyleb gerddoriaeth UG yn cynnwys tair uned astudio:

  • Perfformio (30% o UG)
  • Cyfansoddi (30% o UG)
  • Gwerthuso (40% o UG)

Yn A2 byddwch yn astudio tair uned bellach. Mae perfformio a chyfansoddi yn cael eu hastudio’n ddyfnach ac mae dealltwriaeth gerddorol yn cael ei datblygu drwy weithiau gosod newydd wedi eu seilio ar dri maes testun (Y Symffoni 1830 i 1910, Argraffiadaeth a Theatr Gerdd Americanaidd). Mae'r fanyleb gerddoriaeth A2 yn cynnwys tair uned sy'n adlewyrchu'r rheiny ar lefel UG ond sy’n rhoi hyblygrwydd pellach o ran dyfnder yr astudio mewn Perfformio a Chyfansoddi.

Bydd unedau yn cael eu hasesu naill ai drwy waith cwrs neu drwy arholiad. Mae staff offerynnol a lleisiol gwadd hefyd yn cynorthwyo i baratoi am arholiadau gradd ym mherfformiad. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:

Gallwch fynd ymlaen i'r brifysgol, conservatoires neu golegau arbenigol y celfyddydau perfformio.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd. Mae TGAU gradd B mewn Cerddoriaeth neu radd 5 mewn Theori Cerddoriaeth yn ofynnol. Y gallu i ddarllen nodau cerddorol. Yn ogystal, mae perfformiad i safon gradd 5 (ASRSM, Trinity, Rockschool, etc) yn ofynnol.

Lle bynnag sy'n bosibl, gwneir trefniadau i weld perfformiadau sy'n addysgol a phleserus, a fydd yn costio. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fynychu.

Tutor and student sharing exam results

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFAS0140A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy