Yn gryno
Dyma'r cwrs i chi os ydych eisiau astudio gwyddoniaeth gyfochr â phynciau Safon Uwch. Addysgir y cwrs hwn fel rhan o raglen astudiaeth Safon Uwch, sy’n cyd-fynd ag amrywiaeth o bynciau Safon Uwch eraill megis bioleg, mathemateg a TG.
Ymdrinnir ag unedau cemeg, bioleg a ffiseg ac unedau eraill fydd yn cyffwrdd ar sgiliau ymarferol, yn ogystal ag iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy, gyda digon o gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol.
... Rydych eisiau cwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth
... Rydych yn ysu am yrfa mewn maes gwyddonol
... Rydych eisiau gweithio o fewn y GIG neu feysydd iechyd neu wyddonol perthnasol
Blwyddyn 1:
- Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
- Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (asesiadau mewnol).
Blwyddyn 2:
- Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (asesiadau allanol, arholiadau ym mis Ebrill/Mai fel arfer).
- Uned 4: Technegau Labordy a'u Defnydd (asesiadau mewnol).
O gwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus, mae'n bosib y gallech symud ymlaen i wneud HND neu gwrs gradd gwyddoniaeth neu wyddorau biofeddygol. Mae myfyrwyr yn aml yn mynd ymlaen i brifysgolion lleol a chenedlaethol i astudio ar lefel uwch.
Mae galw uchel am gyfleoedd gyrfa yn gweithio mewn labordai gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.
I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc wyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.