91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 2

EAL Diploma mewn Technolegau Peirianneg Lefel 2

Maes Pwnc
Peirianneg
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
2

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth ragarweiniol o Beirianneg Drydanol a Mecanyddol. Bydd yn cynnig sylfaen gadarn yn yr agweddau allweddol ar beirianneg fodern, a dyma un o’r llwybrau a argymhellir ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gael gyrfa yn y maes peirianneg – maes creadigol ac uchel ei gyflog.

...Ydych eisiau cael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
...Ydych eisiau symud ymlaen at ddiploma estynedig
...Hoffech ddilyn prentisiaeth

Mae’r cwrs yn gyfuniad o elfennau yn y labordy ac elfennau damcaniaethol. Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig. Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o Amgylcheddau Peirianneg
  • Technegau Peirianneg
  • Egwyddorion trydanol ac electronig
  • Egwyddorion Trydanol ac Electronig
  • Dyfeisiau Trydanol ac Electronig
  • Cynnal a Chadw Peirianneg
  • Technegau Ffitio a Chydosod
  • Deall Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur
  • Gweithgynhyrchu Cynyddol (Argraffu 3D)

Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, aseiniadau, asesiadau labordy ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth drin rhifau, meddwl yn greadigol, a meddu ar ddiddordeb gwirioneddol mewn peirianneg. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd yn frwdfrydig, dibynadwy a gweithgar. Bydd y rhinweddau hyn nid yn unig eich helpu i lwyddo wrth ddilyn y cwrs – maent yn union beth mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn technegwyr a pheirianwyr y dyfodol.

Byddwch yn cymryd y TGAU Haen Uwch ochr yn ochr â'r cwrs hwn er mwyn gwirio cyfleoedd cyffrous newydd ar Lefel 3. Ceisiwch am radd B neu'n uwch - mae'n gam gwych tuag at ddyfodol gwerth chweil yn y maes peirianneg!

 

  • BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Peirianneg Mecanyddol
  • Prentisiaeth addas
  • Gwaith fel Technegydd Trydanol neu Electronig

I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 TGAU ar radd D neu'n uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg ar radd C, neu Ddiploma Peirianneg Lefel 1 priodol a TGAU Mathemateg ar radd C.

Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.

Engineering student smiling

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0402AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy