Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau adeiladu ac yn sicrhau eich bod yn barod i ddilyn eich llwybr gyrfa o ddewis o fewn y diwydiant adeiladu ehangach. Mae cyfres Pearson yn cynnwys tri llwybr: Adeiladu, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
...ydych chi am gael gyrfa yn y disgyblaethau adeiladu technegol, gan gynnwys arolygu, dylunio, ymgynghori, isadeiledd, gosod allan (setting out), rheoli prosiectau, mesur meintiau (quantity surveying) neu beirianneg gwasanaethau adeiladu.
Ydych yn dda am weithio fel rhan o dîm
Oes gennych ddiddordeb yn y theori y tu ôl i adeiladu a dyluniad yr amgylchedd adeiledig
…you have progressed from a trade, and would like to pursue a design based or management/consultancy role
Wrth ennill gwybodaeth fanwl am y diwydiant, byddwch yn paratoi at yrfa bosibl mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys (ond nid yn unig) Dylunio, ymgynghori, cynllunio gwasanaethau adeiladu, rheoli prosiectau, arolygu meintiau, peirianneg safleoedd a dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD). Mae Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith ar gael yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ, gan greu llwybr dilyniant naturiol i'r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster NVQ sy’n seiliedig ar grefft.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa broffesiynol yn y maes adeiladu, dyma'r cwrs dilyniant delfrydol i chi. Gall y cwrs gynnwys cynllunio, cynaliadwyedd, dylunio a gweithio fel rhan o dîm ar y safle neu mewn swyddfa. Mae’n bennaf yn seiliedig ar theori, gan ddefnyddio rhaglenni diwydiant-safonol.
Gallwch ddewis dilyn un o dri llwybr:
1.Adeiladu
2. Peirianneg Sifil
3. Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn modiwlau craidd, a bydd modd newid llwybr.
Byddwch yn dilyn unedau craidd a dewisol, gan gynnwys:
- Dylunio ac Adeiladu
- Egwyddorion Adeiladu
- Manylion Graffigol
- Rheolaeth
- Gwasanaethau Sylfaenol mewn Adeiladau
- Arolwg o Adeiladau
- Iechyd a Diogelwch
Byddwch yn rhan o brosiectau rhyngbroffesiynol parhaus, gan ddefnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur (Computer-aided Design - CAD) a thechnegau lluniadu graffigol. Cewch eich asesu trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig a gwaith CAD.
Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig/Peirianneg Sifil neu Beirianneg y Gwasanaethau Adeiladu
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
Gweithgareddau Sgiliau - Saesneg a Mathemateg
I gyrchu'r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf gradd C mewn 5 TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu radd Teilyngdod mewn Diploma Lefel 2 priodol a gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf
Hefyd, bydd angen i chi feddu ar:
- Ddiddordeb mewn adeiladau a'r gwneuthuriad trefol ehangach – nid yw adeiladu yn swydd sy'n gyfyngedig i oriau gwaith arferol, ond yn hytrach mae'n ffordd o fyw.
- Y gallu i weithio dan bwysau yn unigol neu fel rhan o dîm er mwyn cwblhau aseiniadau yn ôl terfynau amser a manylebau llym.
- Mae gafael resymol ar fathemateg yn ddymunol, gan fod llawer o'r modiwlau'n dibynnu ar egwyddorion mathemategol sylfaenol mewn cyd-destun adeiladu.
Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant.
Bydd cwblhau Blwyddyn 1 y Diploma Sylfaen yn llwyddiannus yn eich caniatáu i symud ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn yn eich llwybr dewisol. Os byddwch yn llwyddiannus, ceir cyfle i wneud cais am brentisiaethau ar gyfer yr ail flwyddyn. Mae llwybrau dilyniant wedyn yn cynnwys:
- Gradd Sylfaen/Tystysgrif Genedlaethol Uwch/ Diploma Cenedlaethol Uwch neu gwrs gradd llawn naill ai yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ neu brifysgol arall drwy UCAS
- Prentisiaethau HNC/HND yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ neu ymhellach i ffwrdd
- Prentisiaethau Gradd
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Er y caiff y cwrs hwn ei gyflwyno gan ganolbwyntio ar dechnoleg faterol a senarios bywyd go iawn, mae'r cwrs yn bennaf yn seiliedig ar ddamcaniaeth. Mae'n cynnwys asesiad dan reolaeth ac un arholiad i gyd-fynd â'r gwaith cwrs.
Byddwch yn elwa o gael mynediad at liniadur er mwyn i chi ymgyfarwyddo â'r broses Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur.
Bydd angen i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/ysgrifbinnau a defnyddiau ysgrifennu'n gyffredinol.