Yn gryno
Trowch eich angerdd am Pilates yn yrfa! Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n bodloni safonau diwydiant i ddod yn Hyfforddwr Ymarfer Grŵp ardystiedig mewn Pilates, fel y cydnabuwyd gan CIMSPA.
Mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi os hoffech chi droi eich cariad at Pilates yn yrfa wobrwyol. Os ydych chi’n angerddol am helpu pobl eraill i wella eu cryfder, eu hyblygrwydd a’u lles neu os ydych chi’n dymuno ehangu eich sgiliau fel gweithiwr proffesiynol y maes ffitrwydd, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi popeth y mae ei angen arnoch chi. Byddwch chi’n dysgu sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates sy’n ddiogel ac yn effeithiol yn hyderus, bodloni safonau diwydiant a osodwyd gan CIMSPA, ac agor drysau i gyfleoedd cyffrous fel Hyfforddwr Ymarfer Corff Grŵp ardystiedig.
Byddwch chi’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gynllunio, cyflenwi a gwerthuso sesiynau Pilates diogel ac effeithiol. Pan fyddwch chi’n gymwys, byddwch chi’n barod i arwain dosbarthiadau heb oruchwyliaeth a datgloi cyfleoedd swyddi cyffrous yn y diwydiant ffitrwydd.
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno trwy fodel dysgu cyfunol, sy’n cyfuno astudio ar-lein â diwrnodau hyfforddiant ymarferol, wyneb yn wyneb.
Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu ar y cwrs hwn:
- Anatomeg a ffisioleg - deall sut mae’r corff yn gweithio er mwyn i chi allu dylunio rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol ar gyfer cleientiaid gwahanol.
- Sgiliau proffesiyno - datblygu sgiliau cyfathrebu, sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a sgiliau rhyngbersonol gwych i greu profiad cadarnhaol i’ch cleientiaid.
- Ymwybyddiaeth iechyd - dysgu am gyflyrau cyffredin a reolir gan feddyginiaeth a sut i addasu sesiynau ar gyfer cleieintiaid sydd â’r anghenion hyn.
- Egwyddorion Pilates – archwilio elfennau sylfaenol Pilates a’r hyn sy’n ei wneud yn ffurf effeithiol o ymarfer corf
- Cynllunio a chyflwyno sesiynau – ennill y sgiliau i gynllunio, rhaglennu ac arwain yn hyderus sesiynau Pilates ar gyfer unigolion a grwpiau.
I lwyddo ar y cwrs hwn, bydd angen i chi fynychu pob sesiwn a chymryd rhan yn weithredol yn y gweithgareddau ymarferol a’r gweithgareddau theori. Disgwylir i chi ymarfer eich sgiliau trwy gynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates wrth gynnal agwedd broffesiynol a dangos cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid ardderchog drwy gydol y cwrs. Mae cwblhau pob asesiad, gan gynnwys tasgau ysgrifenedig ac arddangosiadau ymarferol yn hanfodol er mwyn dangos eich gwybodaeth a’ch gallu.
Mae cwblhau’r cwrs hwn yn agor y drws i gyfleoedd cyffrous fel Hyfforddwr Pilates cyflogedig neu hunan-gyflogedig. Hefyd, bydd gennych chi gyfle i symud eich sgiliau yn eu blaen trwy hyfforddiant pellach ar yr un lefel neu ar lefel uwch. Y cymhwyster hwn yw’ch cam cyntaf tuag at yrfa wobrwyol yn y diwydiant ffitrwydd a lles.
I ymuno â’r cwrs hwn, dylech chi feddu ar ddiddordeb gwirioneddol ym maes ffitrwydd a lles, ynghyd ag ymrwymiad i ddysgu a datblygu eich sgiliau. Er nad oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol, bydd angen i chi feddu ar y gallu ffisegol i gymryd rhan mewn sesiynau Pilates ymarferol a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i weithio’n effeithiol gyda phobl eraill. Byddai profiad blaenorol o ymarfer corff grŵp neu ffitrwtdd grŵp yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol – brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu yw’r pethau pwysicaf.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i chi fodloni isafswm safonau diwydiant ar gyfer gweithio yn y rôl o’ch dewis. Mae wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i gymryd y cam cyntaf i mewn i gyflogaeth yn y sector ffitrwydd neu ehangu eich cwmpas ymarfer presennol trwy ychwanegu sgiliau a chyfleoedd newydd.
Mae angen presenoldeb bersonol yn ein Campws Brynbuga ar y dyddiadau canlynol:
- Ionawr – 17fed, 18fed, 24ain a 25ain
- Chwefror – 7fed, 8fed, 21ain a 22ain
- Mawrth – 7fed a 8fed
Bydd pob cynnwys arall yn cael ei ddarparu ac ei asesu gan ddefnyddio ein llwyfan ar-lein.