Dathlu cyflawniadau rhagorol yn ein Seremoni Wobrwyo Dysgwyr flynyddol
Cydnabu'r seremoni unigolion a ddangosodd ymrwymiad rhagorol i’w hastudiaethau, a oresgynnodd heriau, a gyflawnodd nodau personol ac a wnaeth gyfraniad cadarnhaol i fywyd coleg.Ìý
25 Mehefin 2026
Cydnabuwyd cyflawniadau dysgwyr ledled 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn ein Seremoni Wobrwyo Dysgwyr eleni.Ìý
Ar ddydd Iau 18 Mehefin, fe groesawsom ddysgwyr, aelodau staff, teuluoedd a gwesteion gwadd i ICC Cymru i ddathlu’r llwyddiannau, y gwydnwch a’r ymroddiad a ddangoswyd gan gymuned y coleg.Ìý
Cydnabu'r seremoni unigolion a ddangosodd ymrwymiad rhagorol i’w hastudiaethau, a oresgynnodd heriau, a gyflawnodd nodau personol ac a wnaeth gyfraniad cadarnhaol i fywyd coleg.Ìý
Fe enillodd dysgwyr a enwebwyd gan aelodau staff gydnabyddiaeth am ystod eang gyflawniadau y tu fewn i'r ystafell ddosbarth yn ogystal ag y tu allan. Fe ddangosodd y seremoni brofiadau, talentau a llwyddiannau amrywiol unigolion o gymuned gyfan 91Ïã½¶ÊÓÆµ.Ìý
Bu 352 enwebiad eleni, gan arddangos ystod y dalent ar pob campws. Ar ôl ystyriaeth ofalus, dewiswyd 118 o unigolion i dderbyn Gwobrau Cyflawniad Dysgwyr o dair cyfadran y coleg.Ìý

Derbyniodd Sanaa Rstam, Brody Brooks a Sky Buckwell Wobr y Pennaeth Cynorthwyol i gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd yn ystod eu hastudiaethau. Cyflwynwyd Gwobr y Cadeirydd i Lauren Cahalane am oresgyn anawsterau, wrth i Inshal Raza dderbyn Gwobr y Pennaeth am berfformiad rhagorol.Ìý

Dywedodd Nikki Gamlin, Pennaeth 91Ïã½¶ÊÓÆµ:
"Mae Gwobrau'r Dysgwyr yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn academaidd sydd yn roi'r cyfle i ni ddathlu cyflawniadau rhyfeddol ein dysgwyr.Ìý
Y tu ôl i bob enwebiad y mae stori o benderfyniad, gwydnwch a thwf personol. Rydym yn hynod falch o bawb a enwebwyd ac o gydnabod enillwyr eleni.Ìý
Mae eu cyflawniadau’n dangos grym trawsnewidiol addysg a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael o fewn y coleg ac yn eu cymunedau ehangach. Llongyfarchiadau i bawb a gydnabuwyd yn ystod y seremoni eleni."Ìý