Allai 2025 fod y flwyddyn rydych chi’n dod yn hunan-gyflogedig?
18 Chwefror 2025
Wrth i entrepreneuriaeth yng Nghymru brofi twf aruthrol ers 2023*, mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn annog pobl yn ne Cymru i ddilyn eu breuddwydion am hunangyflogaeth yn 2025.Ìý
O gyrsiau academaidd rhan-amser i fodiwlau ar gyfer hobïau, mae’r coleg yn cynnig llawer o gyfleoedd i feithrin sgiliau – i helpu unigolion i ennill yr wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i lwyddo.Ìý
Ar ben hynny, mae’r cyrsiau hyn wedi’u dylunio gan gadw hyblygrwydd mewn cof – er mwyn cydbwyso dysgu â phethau eraill mewn bywyd, os yw hynny’n ofal plant, yn swydd ran-amser neu’n ymrwymiadau eraill.Ìý
Yn 2023, penderfynodd Damiano Argentieri (31 oed) ddechrau ar ei daith tuag at hunangyflogaeth ym myd ffitrwydd trwy gofrestru ar gwrs Lefel 2 (L2) Tystysgrif mewn Hyfforddiant Campfa Lefel 2. Ers hynny, mae wedi symud ymlaen i gwblhau amrywiaeth o gyrsiau eraill, gan gynnwys, Diploma mewn Tylino, cwrs Hyfforddi Ymarfer Corff Grŵp cwrs Pwysau Tegell Lefel 2 a chwrs Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Lefel 3.Ìý
Gan weithio tuag at ei gymhwyster Ymarferydd Hyfforddiant Personol Lefel 3 ar gampws Brynbuga 91Ïã½¶ÊÓÆµ, dywedodd Damiano:“Roedd dychwelyd i’r coleg fel oedolyn ychydig yn heriol ar y dechrau oherwydd roeddwn yn pryderu am ymgartrefu a chadw ar ben yr astudio – ond roedd 91Ïã½¶ÊÓÆµ wedi gwneud y broses bontio yn esmwyth.Ìý
"“Dewisais fynd i’r coleg yn lle mynd i’r brifysgol oherwydd roeddwn yn dymuno cael mwy o brofiad dysgu ymarferol.
Roeddwn yn hoffi’r ffaith fod y cwrs yn fyrrach ac yn fwy fforddiadwy na gradd yn y brifysgol felly gallwn ddechrau fy ngyrfa yn gynharach – a rhoddodd y cwrs yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn dechrau fy musnes hyfforddiant personol fy hun.â€Ìý
Gan reoli ei amser yn ofalus ochr yn ochr â’i astudiaethau, roedd modd i Damiano barhau i gynnal ei fusnes bwyty amser llawn tan yn ddiweddar pan benderfynodd gau drysau’r siop i ganolbwyntio’n llawn ar ei yrfa fel hyfforddwr ffitrwydd.Ìý
Dywedodd:“Un o’m hoff atgofion o’m cwrs yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ yw ennill Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac AoC ar gyfer Hyfforddiant Personol. Roeddwn yn falch o hynny a theimlais fod fy ngwaith caled wedi bod yn werth chweil.â€Ìý
Mae Laura Pietkiewicz, a ddaeth yn ôl i astudio yn y coleg yn 26 oed, hefyd yn astudio yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ – ei nod yw datblygu ei busnes harddwch a therapïau cyfannol.ÌýÌý
Wrth siarad am ei phrofiad o astudio ar y cwrs Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol, dywedodd:
“Am fy mod yn fam sengl, roedd yn rhaid i mi ddod o hyd i rywbeth a oedd yn fy ngalluogi i astudio’n hyblyg gan ofalu am fy mab a rhedeg fy musnes ar yr un pryd. Rwy’n cofio edrych ar wefan 91Ïã½¶ÊÓÆµ a gweld y cwrs rwy’n astudio arno nawr – roedd hynny’n arwydd ac rwyf heb edrych yn ôl.Ìý
“Byddwn yn argymell fy nghwrs a 91Ïã½¶ÊÓÆµ i unrhyw un sy’n dymuno newid ei fywyd, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am rywbeth y tu hwnt i’r swyddi 9am tan 5pm arferol. Os oes gennych chi syniadau creadigol a hoffech chi eu gwireddu neu hyd yn oed os ydych chi’n fam sengl sy’n ceisio symud ymlaen, heb os, dyma le y gallwch chi ddod o hyd i’ch trywydd cywir.â€Ìý
Dysgwr arall sy’n dymuno dilyn trywydd hunangyflogaeth yn 2025 yw Viktoria Horvathne Csuhai, 31 oed – sy’n astudio’n rhan-amser ar gwrs Cadw Cyfrifon yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.Ìý
Dywedodd Viktoria: “Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Hwngari, dywedodd fy athro Mathemateg nid cyfrifeg oedd y pwnc i mi ond, pan symudais i’r DU, penderfynais fynd ati i ddysgu eto.Ìý
“Ar y dechrau, roedd cadw rheolaeth ar bopeth yn anodd ond mae fy rwydwaith cefnogi cryf a’r tiwtoriaid gwych yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ wedi fy helpu i ffynnu a sefydlu cydbwysedd da. Credaf mai hwn yw’r cam cyntaf i gyfeiriad newydd i mi.â€Ìý
Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth 91Ïã½¶ÊÓÆµ: “Yma yn y coleg, rydym yn credu nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu – os hoffech chi newid eich gyrfa, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu angerdd a diddordebau.ÌýÌý
“Mae cofrestru ar gwrs rhan-amser am ddim neu gwrs rhan-amser fforddiadwy yn ffordd wych o astudio’n hyblyg wrth ennill y sgiliau ymarferol, yr wybodaeth a’r hyder angenrheidiol i gymryd y cam nesaf ar daith yrfa neu daith addysgol.ÌýÌý
“Mae ein cyrsiau rhan-amser yn dechrau ac yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn ac, yn aml, rydym yn profi oedolion yn dychwelyd i astudio ar gyrsiau ychwanegol wrth iddynt wella yn eu meysydd. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o oedolion sy’n barod i gychwyn ar fenter newydd i’n campysau yn 2025 – os ydynt yn 18 oed neu’n 80 oed.â€Ìý
Darganfod mwy cyrsiau rhan-amser sydd ar gael yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.Ìý