91Ïã½¶ÊÓÆµ

Worldskills Learner
Newyddion

Dathlu llwyddiant dysgwyr 91Ïã½¶ÊÓÆµ yng nghystadleuaeth WorldSkills UK

Mae wedi bod yn flwyddyn wych arall i 91Ïã½¶ÊÓÆµ yng nghystadlaethau WorldSkills UK.Ìý

Mae ein dysgwyr dawnus unwaith eto wedi arddangos eu sgiliau eithriadol gan ennill gwobrau Aur, gwobrau Arian a gwobrau Clodfawr ar draws ystod o ddisgyblaethau.ÌýÌý

Yn ystod rownd derfynol eleni, cystadlodd myfyrwyr a phrentisiaid o ledled y wlad mewn ystod o ddisgyblaethau sy’n seiliedig ar sgiliau o golur creadigol i arlwyo a chynhyrchu’r cyfryngau i drin gwallt.Ìý

Brwydrodd dros 400 o gystadleuwyr o ledled y DU i gael eu coroni’n ‘bencampwr sgiliau’ yn eu meysydd arbenigol a llwyddodd 16 o’n dysgwyr i gyrraedd y rownd derfynol.ÌýÌý

Enillodd ein dysgwyr gyfanswm o 12 o fedalau, gan atgyfnerthu safle 91Ïã½¶ÊÓÆµ ymhlith y deg coleg gorau ar draws y DU ar gyfer hyfforddiant sgiliau gan orffen yn safle pump yn gyffredinol.

Dyma rai o’n pencampwyr sgiliauÌýÌý

  • Ailorffen Modurol: Llwyddodd Teagan i greu argraff da trwy ei sgiliau ym maes paentio a gorffen cerbyd gan gynhyrchu canlyniadau anhygoel a adlewyrchodd safonau’r diwydiant.
  • Colur Masnachol: Roedd ein hartist colur dan hyfforddiant, Madison, Tierny and Jessie, yn gallu greu argraff gwych ar y beirniaid gan allu creu gweddau proffesiynol ac artistig.
  • Sgiliau Sylfaenol: Gwasanaethau Bwyty: Disgleiriodd doniau Cameron ym meysydd gwasanaeth i gwsmeriaid, gosod bwrdd a rheolaeth.
  • Sgiliau Sylfaenol: Mentergarwch: Dangosodd Jay, Kai and Brandon sgiliau gwaith tîm ardderchog i greu prosiect ysbrydoledig â thema gynaliadwy.
  • Trin Gwallt:Dangosodd Mozhdeh sgiliau creadigol a thechnegol o ran torri, steilio a lliwio gwallt i greu gweddau ffasiynol.Ìý

Ers 2012, rydym wedi bod yn falch o gefnogi llawer o ddysgwyr ar eu taith trwy gystadlaethau WorldSkills.ÌýÌý

Dywedodd Richard Wheeler, Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau:

“Rwyf mor falch, unwaith eto, o weld ein dysgwyr yn llwyddo yng nghystadlaethau WorldSkills UK 2024. Mae eu cyflawniadau neilltuol yn dyst i’w hymroddiad a’u gwaith caled.

ÌýYn ogystal â bod yn syfrdanol, mae’r sgiliau y maent wedi’u datblygu trwy hyfforddiant ac ymarfer hefyd yn hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r cystadlaethau hyn wedi rhoi’r arbenigedd technegol, y sgiliau datrys problemau a’r hyder angenrheidiol i fynd yn bell yn eu dewis feysydd.Ìý

Mae ein dysgwyr yn dyst i’r safonau uchel addysg a hyfforddiant rydym yn anelu at eu darparu ac ni allwn fod yn fwy balch o’u cyflawniadau.â€Ìý

Mae’r rhestr lawn o’r gwobrau a enillwyd gan fyfyrwyr 91Ïã½¶ÊÓÆµ ar gael isod:Ìý

  • Teagan Whiteman, Auto Paint – EfyddÌý
  • Matthew Ford, Auto Tech – ArianÌýÌý
  • Tierney Parker, Colur Masnachol – ArianÌýÌý
  • Madison Harrhy, Colur Masnachol – EfyddÌýÌý
  • Jessie Hall-Horsefield, Colur Masnachol – Canmoliaeth UchelÌýÌý
  • Mozhedeh Zarrinderskht, Trin gwallt – Canmoliaeth UchelÌý
  • Cameron Greenslade-Webb, Gwasanaeth Bwytai Sylfaen – ArianÌýÌý
  • Jay Thomas, Menter Sylfaen – ArianÌýÌý
  • Kai Moreton, Menter Sylfaen – ArianÌýÌý
  • Brandon Furley, Menter Sylfaen – ArianÌýÌý
  • Max Seabourne, Gwaith Coed Sylfaen – AurÌýÌý
  • Jayden Davies, Gwaith Coed Sylfaen – EfyddÌý

Ymunwch â ni wrth ddathlu cyflawniadau neilltuol ein dysgwyr.Ìý