91Ïã½¶ÊÓÆµ

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Welsh learners in the classroom

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig iawn i ni fel coleg. Rydym yn annog pob aelod o gymuned y coleg, pa un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil bersonol ac addysgol, yn ogystal â sgil cyflogadwyedd, yn y dyfodol.

Welsh learner in the calssroom

Cyfleoedd Dwyieithog

Coleg Cymraeg Cenedlaethol logo

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw.

Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth, sy’n galluogi’r coleg i ddarparu unedau dwyieithog mewn gofal plant, iechyd a gofal, chwaraeon, astudiaethau tir a gwasanaethau cyhoeddus, ar gampysau Casnewydd, Crosskeys, Parth Dysgu Torfaen a Parth Dysgu Blaenau Gwent.

Rydym wastad yn gweithio i ehangu’r gwasanaeth a gynigir ar gyfer ein dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg

Ar hyn o bryd, cynigir:

  • Cyfle i astudio rhai modiwlau’n ddwyieithog o blith detholiad o gyrsiau llawn amser. Mae nifer y modiwlau a’r cyrsiau dwyieithog a gynigir yn cynyddu’n flynyddol.
  • Tiwtor Cymraeg ei iaith neu ei hiaith ar gyfer rhai o’ch modiwlau os ydych yn dilyn cwrs dwyieithog
  • Adnoddau Cymraeg ar gyfer modiwlau dwyieithog
  • Cymorth gyda’r Gymraeg yn eich aseiniadau a’ch gwaith cwrs
  • Y dewis i ysgrifennu aseiniadau a chwblhau asesiadau ac arholiadau yn y Gymraeg (dim ond pan fo’r bwrdd arholi’n gallu darparu papurau arholiad yn y Gymraeg)
  • Y gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau tiwtorial yn y Gymraeg
  • E2L – Saesneg fel ail iaith
  • Profiad gwaith goruchwylio
  • Gweithgareddau cyfoethogi cyfrwng Cymraeg
  • Siaradwyr gwadd Cymraeg
  • Rhestrau termau a geirfaoedd dwyieithog
  • Cyfle i ennill eich sgiliau hanfodol neu allweddol yn ddwyieithog neu yn Gymraeg

UG/Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith

Mae cynnig y cyfle i ddysgwyr astudio Cymraeg Ail Iaith ar lefel Safon Uwch yn destun cyffro i 91Ïã½¶ÊÓÆµ. Mynnwch fantais gystadleuol ar gyfer y gweithle drwy ddysgu sut i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ysgrifennu’n greadigol a dadansoddi testunau’n annibynnol ochr yn ochr ag ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant modern yr iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn gynyddol yn cael ei gweld fel sgil allweddol felly dechreuwch eich taith gyda ni ac astudiwch y Gymraeg â diddordeb, mwynhad a brwdfrydedd.

  • Ar ddechrau'r cwrs, byddwn yn ail-ymweld â'r elfennau sylfaenol a dysgu bob amser o'r ferf o'r cychwyn cyntaf er mwyn dileu camgymeriadau a all dynnu marciau ar Lefel Safon Uwch.
  • Mae amrywiaeth eang yn y cwrs, o astudio ffilmiau Cymraeg, hanes a diwylliant Cymru, barddoniaeth, a straeon byrion i gyfryngau cymdeithasol a’r iaith Gymraeg ym mywyd bob dydd.
  • Mae'r cwrs yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach o’r iaith Gymraeg ar lefel gradd, gan ddatblygu sgiliau sy'n addas i'r gweithle ar yr un pryd.

Mae cymorth ar gael ar bob campws wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r HWB Cymraeg yn cynnig y cymorth canlynol:

  • Buddion astudio
  • Cymorth un i un i gwblhau gwaith yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • anllawiau ar ddefnyddio apiau i helpu i astudio’n ddwyieithog
  • Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r Clwb Cymraeg yn cynnal sesiynau wythnosol i gefnogi dysgwyr Cymraeg o bob lefel gan roi cyfle iddynt ymarfer eu Cymraeg a dod yn rhan o’r gymuned Gymraeg fywiog yn y coleg.

Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Clwb yn trefnu ystod o weithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a Dydd Santes Dwynwen, yn ogystal â chystadlaethau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

I gael mwy o wybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd yn y Coleg, siaradwch ag aelod o’r tîm yn ystod Digwyddiad Agored neu e-bostiwch ni yn:

clwbcymraeg@coleggwent.ac.uk

Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi dysgwyr Cymraeg. Mae gennym dîm ymroddedig o hwyluswyr, ynghyd â swyddog cangen sy’n darparu arweiniad a chymorth i siaradwyr Cymraeg drwy gydol eu taith yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Bob blwyddyn, mae’r Coleg hefyd yn penodi tîm o Fyfyrwyr Lysgennad y Gymraeg, a noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r llysgenhadon yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cymraeg a’r tîm dwyieithrwydd i drefnu, arwain a chyflenwi amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y Coleg.