Yn gryno
Dyma raglen Tystysgrif Cenedlaethol Uwch alwedigaethol arbenigol gyda phwyslais cryf ar y cysylltiad â byd gwaith. Mae'r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn yn y prif gysyniadau a sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y sector, ac mae'n cael ei gydnabod yn genedlaethol gan gyflogwyr
..hoffech chi gael gyrfa ym maes Peirianneg
..mae’n well gennych chi gyrsiau galwedigaethol, ymarferol
..rydych chi’n rhifog, yn greadigol ac yn meddu ar hunan-gymhelliant
Mae’r cwrs yn darparu sylfaen gadarn mewn cysyniadau allweddol a sgiliau ymarferol angenrheidiol ar gyfer y sector
Byddwch yn astudio rhai o’r unedau canlynol:
- Â Mathemateg Peirianneg 1
- Design Manufacture
- Gwyddoniaeth Fecanyddol 1
- Thermohylifau 1
- Technegau Peirianneg Proffesiynol
- Systemau Mesur
Byddwch chi’n dysgu trwy gymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol a byddwch chi’n cael eich asesu trwy waith cwrs ac arholiad.
Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
CC ar Lefel A
Graddau CC ar Lefel A ac C ym Magloriaeth Cymru
Mynediad i AU lle rydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 pas mewn cefndir Peirianneg
Hefyd: Llwyddiannau TGAU mewn tri phwnc gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n symud i gyflogaeth ym meysydd awyrenegol, modurol neu gyfansoddion a meysydd cysylltiedig ym maes peirianneg. Gallech chi symud ymlaen i astudio pellach trwy naill ai’r radd HND neu raddau eraill ym maes peirianneg.
Fel arfer, bydd angen o leiaf un o’r canlynol arnoch chi:
- Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Teilyngdod
- DD at A Level
- Graddau DE Safon Uwch ynghyd â C ym Magloriaeth Cymru
- Mynediad i Addysg Uwch gan ennill Diploma Pasio a chael 45 o raddau pasio
Yn ogystal â graddau pasio ar gyfer cymhwyster TGAU mewn tri phwnc, gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gymhwyster cyfatebol). Bydd myfyrwyr hŷn sy’n meddu ar brofiad perthnasol mewn diwydiant nad ydynt yn bodloni’r gofynion cymwysterau academaidd yn cael eu hystyried yn unigol trwy gyfweliad.
O 2025, cyflwynir y cwrs hwn yn ein canolfan Hive newydd. Mae’r adeilad sy’n werth aml-filiynau o bunnoedd wedi’i ddylunio ar gyfer darpar beirianwyr.